Senedd Cymru

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

 

Cofnodion

Dydd Iau 19 Ionawr, 3.30pm-5pm

Cyfarfod hybrid, Tŷ Hywel

 

Yn bresennol: Mark Isherwood AS, Carolyn Thomas AS, Frances Rees, Sioned Thomas, Kirsty Jones, Rosie Edwards, Chris Haines, Keith Igram, Megan Thomas, Shaun Bendle, Jeff Morris, John Price, Stephane Guidon, Kyle Eldridge, Carys Holt, Catherine Ede, Catherine Vaughan, Steffan Davies, Sian Emlyn Edwards, Angela Ellis, David Evans, Heather Lucas, Jake Smith, Kirsty Rees, Ruth Rabet, Samantha Lambert-Worgan, Stacey Baker, Alexander Still, Aoife Pryor, Suzanne Rinvolucri, Hannah Madd, Janet Willicott ac Angela Ellis

 

Ymddiheuriadau: Llŷr Gruffydd AS, Dr Sarah Broadhurst, Dr Alberto Salmoiraghi, Stephen Morris, Jill Grange, Gareth Marshall, Elizabeth Naylor a Michal Blochowiak.

 

1.     Croeso a chyflwyniad

 

Croesawodd Mark Isherwood AS bawb i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth a chyflwynodd y siaradwyr.

 

2.     Cofnodion y cyfarfod diwethaf

 

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blynyddol a gynhaliwyd ddydd Llun 24 Hydref yn y Ganolfan Llesiant yn Wrecsam ar ôl cael eu cynnig a’u heilio fel cofnod cywir gan Carolyn Thomas a Stephane Guidon, yn y drefn honno.

 

3.     Adroddiad a chyfrifon blynyddol

 

Hysbysodd MI bawb oedd yn bresennol fod adroddiad blynyddol a datganiad ariannol y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth wedi’u cyhoeddi ar wefan y Senedd yn dilyn y cyfarfod blynyddol.

 

4.     Y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol

 

Rhoddodd Sioned Thomas, Frances Rees a Kirsty Jones – swyddogion datblygu gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – drosolwg o waith y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol (NAT). Cafwyd diweddariad ganddynt hefyd ar sut y mae’r NAT yn helpu i weithredu’r Cod Ymarfer, gyda ST yn gweithredu fel llais pobl awtistig, sy’n allweddol i waith y NAT.

 

Dywedodd KJ wrth y cyfarfod y bydd Dr Duncan Holtom, o Bobl a Gwaith, yn arwain gwerthusiad o’r cod statudol. Dywedodd mai’r nod yw adolygu i ba raddau mae’r dyletswyddau yn y Cod wedi’u cyflawni ers ei weithredu, ac i wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau. Bydd y cam cyntaf yn canolbwyntio ar weithredu gan awdurdodau lleol, byrddau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, gyda’r ail gam yn 2024 yn rhoi pwyslais ar ymwybyddiaeth a phrofiadau pobl o’r cod. Hefyd, chwaraeodd detholiad o bodlediad, a gynhyrchwyd gydag Autistic UK, sy’n ceisio sicrhau bod pobl awtistig a’u teuluoedd yn deall eu hawliau o dan y Cod Ymarfer.

 

Ychwanegodd KJ fod yr NAT yn arwain ar ddwy ffrwd waith o dan grŵp cynghori newydd y gweinidog ar niwroamrywiaeth: gyda’r cyntaf yn canolbwyntio ar anghenion brys a’r ail ar ail-ddylunio gwasanaethau dros y tymor hir i sicrhau cynaliadwyedd. Wrth dynnu sylw at y fframwaith hyfforddi pedair lefel newydd, disgrifiodd waith ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd, gyda modiwlau newydd ar ddeall awtistiaeth a chyfathrebu effeithiol.

 

Canmolodd FR sesiynau Cymuned Ymarferyr NAT, sy’n cynnig cyfle i weithwyr proffesiynol i rannu arferion da. Nododd sesiwn ar fwyta, bwyd a diet – o dan arweiniad Emma Reardon o Autism Well-being – gan ddweud bod un o bob pum menyw mewn clinigau anhwylderau bwyta ar y sbectrwm. Tynnodd FR sylw hefyd at sesiynau ar iechyd meddwl, cynnwys Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, yn ogystal â rhywedd ac awtistiaeth. Dywedodd FR y bydd sesiynau nesaf y Gymuned Ymarfer yn canolbwyntio ar Alecsithymia a chymhlethdod.

 

Tynnodd sylw at becyn adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol CAMHS a gwaith grŵp iechyd meddwl oedolion cenedlaethol. Dywedodd FR fod yr NAT yn cydweithio’n glos â Christy Hoskings sy’n arwain tîm profiad cleifion niwroddatblygiadol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cyfeiriodd hefyd at hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yn ogystal â rhai sy’n gweithio mewn gofal iechyd sylfaenol neu’r gwasanaethau brys.

 

Ychwanegodd ST fod yr NAT yn gweithio ar daflenni cyngor ar gyfer oedolion awtistig ar brofiad bywyd pobl o bynciau fel cael diagnosis a masgio.

 

Holodd Megan Thomas am waith yr NAT ar anhwylderau bwyta, gan ofyn a yw rhai sydd wedi gwneud diagnosis eu hunain yn gallu manteisio ar yr un cymorth. Roedd ST yn cytuno ar bwysigrwydd sicrhau nad yw diagnosis yn rhwystr rhag cael gafael ar help. Dywedodd na fyddai’r NAT byth yn mynnu bod rhywun yn gorfod cael diagnosis ffurfiol cyn gallu manteisio ar unrhyw rai o’i grwpiau, gan ychwanegu bod yr adnoddau sydd ar gael ar autismwales.org yno i bawb eu defnyddio.

 

Gan droi at ei waith achos yn ei etholaeth, mynegodd MI bryderon am gyrff cyhoeddus sy’n “dewis a dethol” dyletswyddau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth. Gofynnodd sut y gellid cynnwys pobl â phrofiad bywyd yn fwy mewn monitro a gorfodi. Dywedodd KJ y bydd gwerthusiad Dr Holtom yn cynnwys profiadau pobl awtistig, teuluoedd a gofalwyr ers i'r cod gael ei gyflwyno.

 

Mynegodd Samantha Lambert-Worgan bryderon am y diffyg dealltwriaeth o awtistiaeth ymhlith staff CAMHS, gan ddweud ei fod wedi rhwystro ei mab rhag cael help.

 

5.     Gwasanaeth gwaith achos addysg y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

 

Disgrifiodd Rosie Edwards, cydlynydd cyngor ar addysg a phontio Cymru’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (NAS) sut y gall yr elusen helpu â chyngor a help ar hawliadau addysg, pontio, gwaharddiadau o ysgolion, a thribiwnlysoedd addysg. Dywedodd wrth y cyfarfod hefyd fod yr NAS hefyd yn cynnig llinell gymorth rhiant i riant sy’n cael ei harwain gan wirfoddolwyr, ac sy’n gallu cynnig cymorth emosiynol i rieni a gofalwyr.

 

Dywedodd RE fod y llinell gymorth hawliau addysg wedi helpu bron i 100 o deuluoedd yn y flwyddyn ddiwethaf, a dros 800 er 2015. Wrth roi dadansoddiad daearyddol o’r galwadau i’r gwasanaeth, dywedodd fod y nifer uchaf o alwadau i’r elusen yn dod o Sir y Fflint (14%), Caerdydd (12%) a Chonwy (10%) gyda’r niferoedd lleiaf yn dod o Flaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen (2%).

 

Gan nodi rhai o’r heriau mae’r gwasanaeth gwaith achos yn eu hwynebu, dywedodd fod rhieni a phlant yn aml yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt. Cyfeiriodd at ymchwil NAS a ddangosodd ei bod yn anos cysylltu â staff ysgolion, gydag oddeutu hanner y rhieni’n dweud bod cynnydd academaidd eu plentyn wedi dioddef yn ystod y pandemig. Pwysleisiodd RE hefyd bwysigrwydd gwella dealltwriaeth o awtistiaeth mewn ysgolion a sicrhau nad yw’r system AAY newydd yn ‘codi’r bar’ o ran mynediad at gymorth.

 

Wrth gloi, soniodd am yr adborth positif a gafwyd gan deuluoedd, gyda 99% yn teimlo eu bod yn gwrando arnynt, bod 92% yn gwybod mwy am hawliau addysgol eu plentyn, a dywedodd 100% o’r ymatebwyr y byddent yn argymell y gwasanaeth gwaith achos i eraill.

 

Gofynnodd Janet Willicott gwestiwn am blant dawnus yn academaidd, cyflwyniad cymhleth a’r rhai sy’n cwympo rhwng y ddarpariaeth brif ffrwd ac ysgolion arbennig. Dywedodd RE fod y gwasanaeth gwaith achos yn gallu helpu teuluoedd i edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael, fel addysg yn y cartref. Awgrymodd MI y gellid trafod y pwnc hwn yn fwy manwl mewn cyfarfod yn y dyfodol. Wrth ymateb i gyfraniad ar gymorth cyfreithiol, dywedodd MI y byddai’r grŵp yn ailedrych ar bwnc pwysig cymorth cyfreithiol yn y dyfodol.

 

6.     Unrhyw fater arall / cau pen y mwdwl

 

Hysbysodd MI y grŵp fod y cyfarfod nesaf o’r grŵp wedi’i drefnu ar gyfer dydd Llun 17 Ebrill 2023 rhwng 10.30am a hanner dydd. Cynhelir y cyfarfod yn y Gogledd, ym Mhrifysgol Bangor, gydag aelodau unwaith eto’n gallu ymuno wyneb yn wyneb neu’n rhithiol.

 

I gloi, diolchodd MI i’r holl siaradwyr, pawb a oedd yn bresennol, a staff Comisiwn y Senedd am eu help i gynnal y cyfarfod.